Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol
Offerynnau Statudol Gydag Adroddiadau Clir
19 Mai 2014
CLA400 - Rheoliadau Ffedereiddio Ysgolion a
Gynhelir (Cymru)
2014Gweithdrefn: Cadarnhaol
Roedd Mesur Addysg Cymru 2011 yn rhoi'r pŵer i
awdurdodau lleol sefydlu ffederasiwn o ddwy neu fwy o ysgolion gan
ddefnyddio proses i'w nodi mewn rheoliadau. Mae'r Rheoliadau hyn yn
nodi'r broses y mae'n ofynnol i awdurdodau lleol a chyrff
llywodraethu eu dilyn er mwyn ffedereiddio, dad-ffedereiddio neu
ddiddymu ffederasiwn; yn nodi cyfansoddiad ac aelodaeth corff
llywodraethu wedi'i ffedereiddio, sydd rhwng 15 a 27 o
lywodraethwyr; yn pennu uchafswm o chwech o ran nifer yr ysgolion a
gaiff ffedereiddio ac yn nodi'r fframwaith llywodraethu y caiff
cyrff llywodraethu weithredu a chynnal ei fusnes o'i
fewn. Yn ogystal, maent yn cydgrynhoi, gyda rhai
gwelliannau, Rheoliadau Ffedereiddio Ysgolion a Gynhelir a
Diwygiadau Amrywiol (Cymru) 2010 ac yn dirymu'r Rheoliadau
hynny.
CLA401 – Gorchymyn Addysg (Ysgolion Bach)
(Cymru) 2014
Gweithdrefn: Cadarnhaol
Mae'r Gorchymyn
hwn yn nodi ysgol fach a gynhelir at ddibenion Pennod 1 o Ran 2 o
Fesur Addysg (Cymru) 2011 ("Mesur 2011"). Mae'r bennod
honno'n nodi'r fframwaith statudol ar gyfer ffedereiddio ysgolion a
gynhelir. Mae Adran 11 o Fesur 2011 yn darparu y caiff
awdurdod lleol wneud cynigion i ffedereiddio ysgolion ac nad yw
rhai darpariaethau penodol sy'n ymwneud â chyhoeddi ac
ymgynghori yn gymwys i gynnig i ffedereiddio dim ond ysgolion
bach.
CLA402 - Gorchymyn Iechyd Planhigion (Cymru)
(Diwygio) (Rhif 2) 2014
Gweithdrefn: Cadarnhaol
Mae'r Gorchymyn hwn yn diwygio Gorchymyn Iechyd
Planhigion (Cymru) 2006 sy'n cynnwys mesurau sy'n atal heintiau ac
afiechydon niweidiol ymysg planhigion rhag dod i mewn a lledaenu.
Mae'n ymestyn y cynllun hysbysiad statudol ar gyfer rhywogaethau
penodol o goed i gynnwys deunyddiau planu llwyfen a hefyd yn
gweithredu Cyfarwyddeb Gweithredu'r Comisiwn 2014/19/EU a
Chyfarwyddeb Gweithredu'r Comisiwn 2014/62/EU a Chyfarwyddeb
Gweithredu'r Comisiwn 2014/62/EU.